Skip to Main Content

Amgylcheddau Iach

Rydym am greu amgylchedd sy’n galluogi, yn cefnogi ac yn hyrwyddo cyfleoedd i bobl gael bwyd da, ac sy’n ailgyflwyno symud i fywyd bob dydd.

Lleoliadau Iach

Rydym am lunio ein hysgolion, ein gweithleoedd a’n lleoliadau cymunedol gan greu cyfleoedd sy’n galluogi, yn cefnogi ac yn hyrwyddo bwyd da a symud.

Pobl iach

Rydym am alluogi cyfleoedd hygyrch a fforddiadwy i gael bwyd da a symud mewn ffordd sy’n deg ac yn gynhwysol i bawb drwy gydol eu hoes.

Arwain a Galluogi Newid

Rydym am alluogi newid ar draws y system drwy arweinyddiaeth, creu polisïau sy’n galluogi, datblygu capasiti a thargedu cymorth i gyd-fynd ag anghenion pobl a chymunedau.

Bwyd Da

Pan fyddwn yn sôn am ‘Fwyd Da’, rydym yn golygu bwyd sy’n faethlon, yn iach ac yn ddiwylliannol briodol

Symud

Pan fyddwn yn sôn am ‘Symud’ rydym yn golygu pob math o symud megis; gweithgaredd corfforol, dringo’r grisiau, chwaraeon, chwarae, gwaith t? neu deithio llesol. Gall symud ddigwydd yn sgil pethau eraill neu fod yn weithgaredd sydd wedi’i gynllunio, ac amrywio o gyfnodau byr i weithgaredd hirach.
Movement can be incidental or planned, from short bouts to longer duration.

Ni

Pan fyddwn yn sôn amdanom ‘ni’ rydym yn golygu’r partneriaid lleol sy’n rhan o’n system ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn ogystal â’n cymunedau

Cysylltwch – gyda’n gilydd gallwn greu newid

Pa rôl allech chi ei chwarae? Byddem yn falch iawn o glywed gennych.

Cysylltwch â ni drwy goodfood.movement@wales.nhs.uk