- Rydym yn cael ein dylanwadu gan yr hyn sydd o’n cwmpas ni. Rydym yn gwybod bod mwy i fwyd da a symud na dim ond y dewisiadau a wnawn. Mae yna lawer o bethau a all ddylanwadu ar ein bywydau. Mae’r ddelwedd hon yn ein helpu i ddisgrifio’r haenau hyn o ddylanwad.
- Mae ein Cynllun Gweithredu yn cynnwys camau gweithredu ar draws yr holl haenau hyn.
Amgylcheddau Iach
Rydym am greu amgylchedd sy’n galluogi, yn cefnogi ac yn hyrwyddo cyfleoedd i bobl gael bwyd da, ac sy’n ailgyflwyno symud i fywyd bob dydd.
Lleoliadau Iach
Rydym am lunio ein hysgolion, ein gweithleoedd a’n lleoliadau cymunedol gan greu cyfleoedd sy’n galluogi, yn cefnogi ac yn hyrwyddo bwyd da a symud.
Pobl iach
Rydym am alluogi cyfleoedd hygyrch a fforddiadwy i gael bwyd da a symud mewn ffordd sy’n deg ac yn gynhwysol i bawb drwy gydol eu hoes.
Arwain a Galluogi Newid
Rydym am alluogi newid ar draws y system drwy arweinyddiaeth, creu polisïau sy’n galluogi, datblygu capasiti a thargedu cymorth i gyd-fynd ag anghenion pobl a chymunedau.
Sut y byddwn ni’n gweithio
Cynnwys
Dod â phobl ynghyd, gan sicrhau ein bod yn gwrando ar safbwyntiau pawb; gwneud penderfyniadau, llunio a rhoi newidiadau ar waith.
Cydweithio
Cydweithio i gyflawni ac i ddarparu ein cydflaenoriaethau, o fewn a rhwng sefydliadau.
Blaenoriaethu camau gweithredu ar y cyd
Cytuno ar ymdrechion ar y cyd a chanolbwyntio’r rheini ar gamau gweithredu sy’n flaenoriaeth o ran y system.
Defnyddio’r un iaith
Datblygu negeseuon clir ac iaith glir y gall pawb eu defnyddio.
Datblygu capasiti
Defnyddio ein hadnodd cyfunol i ddatblygu capasiti ein system; cyfuno ein hymdrechion, rhannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu ac osgoi dyblygu.
Ymrwymo i gyllid hirdymor
Gweithio’n wahanol o fewn y strwythurau a’r systemau cyllido sydd gennym, yn ogystal ag edrych yn fwy eang am ffynonellau cyllido newydd a gwahanol.
Dylanwadu ar newidiadau i’r system ehangach a’u hyrwyddo
Dathlu a rhannu ein; llwyddiannau, dulliau dysgu a heriau; manteisio ar gyfleoedd i greu newidiadau ehangach i’r system.
