Skip to Main Content

Y newid yr ydym yn ceisio ei gyflawni

  • Gwneud y mwyaf o botensial lleoliadau blynyddoedd cynnar i alluogi pobl ifanc i fod yn gorfforol egnïol a chael mynediad at fwyd da
  • Gwneud y mwyaf o botensial y diwrnod ysgol i alluogi plant a phobl ifanc i fod yn egnïol, chwarae chwaraeon, a chael mynediad at fwyd da, ei brofi a dysgu amdano.
  • Ailgyflwyno symud i’r diwrnod gwaith
  • Mae Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Caerdydd yn gweithio gyda phartneriaid ar ddatblygu hyfforddiant ac adnoddau ar y cyd i helpu lleoliadau i hybu bwyta’n iach a gweithgaredd corfforol, sy’n cefnogi cam 1 y cynllun. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys Active Tots (Chwaraeon Met Caerdydd), Y Cogydd Bach (Tîm Deieteg Iechyd Cyhoeddus) a NewidCyflym (BIPCaF).

    Emma Coleman ac Annamarie Hurley, Tîm Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Caerdydd
  • Drwy weithio gyda phartneriaid i edrych ar sut y gallwn gefnogi ysgolion i weithredu safonau cenedlaethol newydd Rhwydwaith Cymru o Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Llesiant, byddwn yn galluogi ysgolion i gael dull ysgol gyfan o ymdrin â gweithgaredd corfforol a bwyd, a darparu cyfleoedd i bawb gael bwyd da a symud.

    Karen Trigg, Tîm Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Llesiant Caerdydd