Skip to Main Content

Y newid yr ydym yn ceisio ei gyflawni

  • Cryfhau asedau cymunedol yn y cymunedau sydd â’r angen mwyaf
  • Cysylltiad gwell gan bobl â chyfleoedd hygyrch a fforddiadwy i wneud gweithgaredd corfforol
  • Cynyddu’r cymorth i deuluoedd mewn angen
  • Cynyddu’r cyfleoedd ar gyfer sgyrsiau iach i’r eithaf
  • Newid arferion cymdeithasol i fod yn fwy egnïol
  • Gwella mynediad i fwyd da
  • Lleihau’r rhwystrau i fwydo ar y fron
  • Partneriaeth o unigolion a sefydliadau o bob cwr o’r ddinas yw Bwyd Caerdydd. Mae’n gweithredu fel hyb i gysylltu’r bobl a’r prosiectau sy’n gweithio i hyrwyddo bwyd iach a moesegol sy’n amgylcheddol-gynaliadwy ledled y ddinas; mae’n llais dros newid ehangach. Mae gweithio yn y ffordd yma’n galluogi pawb i gael bwyd da.

    Pearl Costello, Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy
  • Partneriaeth bwyd lleol Bro Morgannwg yw Bwyd y Fro, sy’n dod o dan adain yr adran Iechyd Cyhoeddus. Rydym yn cynnal amrywiaeth o brosiectau sy’n annog pobl i dyfu, prynu, coginio a bwyta bwyd da; boed hynny drwy ehangu mannau tyfu cymunedol, cefnogi pantris bwyd, buddsoddi mewn tyfwyr lleol neu greu cyfleoedd dysgu.

    Louise Denham, Cydlynydd Bwyd y Fro
  • Mae gweithio tuag at newid arferion cymdeithasol i alluogi plant i chwarae yn ein cymunedau lleol yn hanfodol i greu’r diwylliant sydd ei angen arnom i annog pobl ifanc o bob oed a gallu i archwilio a bod yn anturus yn ogystal â chadw eu cyrff yn egnïol a’u meddyliau’n iach.

    Jo Jones, Tîm Chwarae’r Fro